Rydym yn EXPO-ENGAGE, prosiect ymchwil o Brifysgol Caerwysg a Phrifysgol Caerdydd sy'n ceisio dod o hyd i ffyrdd i bobl yn Sir Caerffili, De Cymru, a Camborne a Redruth yng Nghernyw fonitro ansawdd aer yn eu hardal leol.
Pam monitro ansawdd aer?
Mae tanwyddau ffosil ar gyfer trafnidiaeth, diwydiant ac ynni cartref yn ffynonellau mawr o allyriadau nwyon tŷ gwydr a llygredd aer. Bydd targedau allyriadau sero net yn y DU yn gofyn am newidiadau i’n ffordd o fyw, felly bydd cefnogaeth cymunedau yn hanfodol i gyflawni’r amcanion hyn. Mae monitro llygredd aer - y defnydd o synwyryddion i bennu lefelau ansawdd aer - yn darparu ffordd i gymunedau ymgysylltu â llygredd aer, gan rymuso pobl â data i nodi a mynd i'r afael ag achosion y mater iechyd amgylcheddol hwn.
Fodd bynnag, mae pobl sy'n byw mewn ardaloedd a threfi gwledig yn tueddu i fod yn llai tebygol o gymryd rhan mewn monitro ansawdd aer na'r rhai sy'n byw mewn dinasoedd. Mae angen gwneud mwy i gefnogi'r cymunedau hyn i fonitro ansawdd aer lleol, gan eu helpu i weithredu ar lygredd aer.
Beth ydym yn anelu at ei gyflawni?
Trwy arolygon byddwn yn nodi'r rhwystrau y mae pobl yng Nghaerffili, Camborne, a Redruth yn eu hwynebu i gymryd rhan mewn monitro ansawdd aer. Byddwn hefyd yn gweithio gyda gwahanol grwpiau cymunedol ac aelodau o'r cyhoedd i ddatblygu rhwydwaith o bobl sydd â diddordeb mewn mynd i'r afael â llygredd aer yn y ddwy ardal.
Nod y prosiect hwn yn y pen draw yw cyd-gynhyrchu cynllun ymchwil ar gyfer monitro ansawdd aer yn y ddwy ardal.
Sut gallaf gymryd rhan?
Os oes gennych gwestiynau am y prosiect EXPO-ENGAGE anfonwch e-bost at: [email protected]
Ein tîm

Dr Jo Garrett
Arweinydd Prosiect
Mae Dr Jo Garrett yn Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Ewropeaidd yr Amgylchedd ac Iechyd Dynol ym Mhrifysgol Caerwysg. Mae ymchwil Jo yn canolbwyntio ar y rhyngweithio rhwng iechyd dynol, lles, a'r amgylchedd.

Dr Siân de Bell
Ymchwilydd
Mae Dr Siân de Bell yn Gymrawd Ymchwil sy’n gweithio yng Nghanolfan Synthesis Tystiolaeth HSDR (Ymchwil Gwasanaeth Iechyd a Chyflawni) Prifysgol Caerwysg. Mae Sian yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid, o sefydliadau sydd â diddordeb mewn rheolaeth amgylcheddol, i grwpiau o fewn y GIG sydd eisiau gwella’r modd y darperir gwasanaethau iechyd, i gyfieithu ymchwil i’w defnyddio gan wneuthurwyr penderfyniadau ac ymarferwyr.

Dr Rachel Hale
Ymchwilydd
Mae Dr Rachel Hale yn Gydymaith Ymchwil yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd. Mae Rachel yn defnyddio ei chefndir mewn Cymdeithaseg ac Astudiaethau Gwyddoniaeth a Thechnoleg i archwilio materion cymdeithasol, yn enwedig lle mae technoleg dan sylw. Mae hi hefyd ar hyn o bryd yn gweithio ar astudiaeth yn edrych ar fewnosod technoleg Deallusrwydd Artiffisial i weithgynhyrchu dur.

George Kirkham
Ymchwilydd
Mae George Kirkham yn Gynorthwyydd Ymchwil sy’n cefnogi prosiect EXPO-ENGAGE. Cyn dychwelyd i'r byd academaidd bu George yn gweithio fel ymchwilydd dylunio. Ym mis Hydref 2023 bydd yn dechrau ar PhD ym Mhrifysgol Rhydychen yn ymchwilio i lywodraethiant byd-eang o eniwed brathiadau nadroedd.
